Cynlluniau a Strategaethau
Dogfennau, cynlluniau a strategaethau allweddol y cyngor gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae'r Cynllun newydd hwn, Cynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth Pen-y-bont ar Ogwr, 2022-25, yn nodi'r camau y bydd y Cyngor yn eu cymryd am y tair blynedd nesaf. Mae'n cael ei lywio gan argymhellion yr Adroddiad Cynnydd, a dynnodd sylw at gryfderau i adeiladu arnynt, a meysydd ar gyfer gwella'r ddarpariaeth.
Wedi'i chynhyrchu ar y cyd gyda grŵp o'n plant a'n pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, mae Strategaeth Magu Plant Gorfforaethol Pen-y-bont ar Ogwr yn nodi'r hyn y bydd y Cyngor a'i bartneriaid yn ei wneud i fod y rhieni corfforaethol gorau y gallwn ni fod.
Mae ein Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2023-28 yn nodi blaenoriaethau’r cyngor a sut fyddwn yn gweithio ochr yn ochr â phobl a phartneriaid lleol i gyflwyno gwasanaethau dros y pum mlynedd nesaf.
Mae’r Cynllun Rheoli Cyrchfannau (CRhC) yn ddatganiad a rennir o fwriad i reoli Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel cyrchfan lwyddiannus i ymwelwyr rhwng 2022 a 2027.
Mae ein Strategaeth Ddigidol yn amlinellu sut rydym yn bwriadu cael Cyngor Digidol sy’n cydnabod uchelgais strategaeth ‘Digidol yn Gyntaf’ Llywodraeth Cymru Strategaeth Drawsnewid Llywodraeth y DU ac yn alinio gyda hwy.
Mae’r Gyfarwyddiaeth Addysg, Blynyddoedd Cynnar a Phobl Ifanc yn chwarae rhan allweddol wrth ddarparu ystod eang o wasanaethau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar fywydau plant, pobl ifanc, oedolion a theuluoedd sy’n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Datblygwyd ein Strategaeth Cyfranogiad ac Ymgysylltu i amlinellu'r camau y byddwn yn eu cymryd fel Cyngor i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl am ein gwasanaethau.
Mae'r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol (LBAP) yn ystyried y rôl ehangach mae bioamrywiaeth yn ei chwarae wrth ddarparu buddion i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae'r Cynllun Trafnidiaeth Lleol (LTP) yn cynnwys Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac yn gosod ein blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi mewn trafnidiaeth dros gyfnod o 15 mlynedd.
Fel sefydliad, rydym wedi ymrwymo i gyflawni’r targed Sero Net erbyn 2030, ac yn cydnabod y rôl arweiniol ar lefel ehangach, o safbwynt galluogi busnesau a chymunedau’r sir i gyflawni Sero Net.
Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn nodi sut y byddwn yn mynd ati i gyflawni ein hamcanion cydraddoldeb a sicrhau bod ein gwasanaethau yn hygyrch ac yn ymateb i anghenion amrywiol yr unigolion sy’n byw, yn gweithio ac yn ymweld â’r fwrdeistref sirol.
Mae’r Datganiad Llesiant yn nodi amcanion llesiant Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac yn disgrifio sut y byddant yn ein helpu i gyflawni’r saith nod llesiant ar gyfer Cymru.
Bob blwyddyn, mae'n rhaid i ni gyhoeddi adroddiad hunanasesiad. Mae'r adroddiad yn rhoi sicrwydd i Lywodraeth Cymru ein bod yn perfformio'n dda, gan wneud penderfyniadau mewn modd call, agored a chan ddefnyddio ein harian ac adnoddau eraill yn y ffordd gywir.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i sicrhau bod pobl sy'n byw yn y fwrdeistref sirol yn ddiogel ac yn cael eu hamddiffyn a bod ei ddyletswyddau statudol i ddiogelu ac amddiffyn plant, pobl ifanc ac oedolion sy’n wynebu risg yn cael eu cyflawni’n effeithiol.