Cynllun Corfforaethol

Mae ein Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2023-28 yn nodi blaenoriaethau’r cyngor a sut fyddwn yn gweithio ochr yn ochr â phobl a phartneriaid lleol i gyflwyno gwasanaethau dros y pum mlynedd nesaf.

Mae’r cynllun, ‘Cyflawni gyda’n Gilydd’, wedi’i ddylunio i fod yn haws i bobl ymgysylltu ag ef.

Mae wedi’i gynhyrchu gan ddefnyddio adborth gan staff, trigolion o bob oed a chefndir, defnyddwyr a darparwyr gwasanaethau’r cyngor, aelodau etholedig, sefydliadau partner, awdurdodau lleol eraill, a mwy.

Cyflawni gyda'n gilydd
 Map Pen-y-bont ar Ogwr

Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cwmpasu tua 100 milltir sgwâr gyda phoblogaeth o 145,760 (Data o gyfrifiad 2021).

Mae ein daearyddiaeth yn amrywiol, gyda chymoedd hardd yn y gogledd a 12.5 milltir o arfordir a thraethau yn y de.

Mae’r M4 yn rhedeg drwy ganol y Fwrdeistref Sirol, ac mae gennym gysylltiadau rheilffordd prif linell reilffordd i Gaerdydd a Llundain i’r dwyrain, ac i Abertawe yn y gorllewin.

Mae ein hasedau yn ein helpu i gadw ein cymunedau wedi’u cysylltu a’u cefnogi. Heb ein tir, ein hadeiladau a’n ffyrdd a llwybrau troed, ni fyddem yn gallu darparu’r rhan fwyaf o’n gwasanaethau.

Rydym yn cynnal 882 cilometr o rwydwaith ffyrdd a 613.72 cilometr o hawliau tramwycyhoeddus hefyd, sy’n cynnwys llwybrau troed. Mae hyn yn bellach na’r pellter o Ben-y-bont ar Ogwr i John O’Groats!

Ein harian

Datblygwyd y blaenoriaethau yn y cynllun hwn ochr yn ochr â chynlluniau ariannol manwl iawn, er mwyn sicrhau y gallwn fforddio i’w cyflawni. O roi cyfrif am wasanaethau a ariennir drwy grantiau neu ffioedd a thaliadau penodol, cyllideb gros y cyngor fydd tua £530 miliwn yn 2025-26.

Daw’r rhan fwyaf o’n cyllid refeniw gros oddi wrth Lywodraeth Cymru (52%) drwy’r Grant Cynnal Refeniw a’n cyfran o ardrethi annomestig. I ychwanegu at hyn, rydym yn derbyn treth gyngor (20%), grantiau eraill (19%) a ffioedd a thaliadau (9%).

I le mae ein cyllideb yn mynd? Mae’r Cyngor wedi cynllunio i wario £383.226 miliwn yn ei gyllideb refeniw net ar gyfer 2025-26.

Ceir rhagor o wybodaeth am gyllideb y Cyngor ar gyfer 2025-26 yn ein Llyfr Cyllideb 2025-26.

Ysgolion £132m, 32%  / Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant £116m, 30% / Cyllidebau Cyngor Cyfan £54m, 14% / Cymunedau £34m, 9% / Addysg, Blynyddoedd Cynnar a Phobl Ifanc £31m, 8% / Prif Weithredwyr £25m, 7%
Ysgolion £132m, 32% / Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant £116m, 30% / Cyllidebau Cyngor Cyfan £54m, 14% / Cymunedau £34m, 9% / Addysg, Blynyddoedd Cynnar a Phobl Ifanc £31m, 8% / Prif Weithredwyr £25m, 7%

Ein huchelgais ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Dros gyfnod y cynllun (2023-28), rydym eisiau buddsoddi yn y pethau cywir – y pethau sy’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i chi, ac a werthfawrogir fwyaf gennych chi.

Cafodd amcanion llesiant y cyngor eu hadolygu ar gyfer 2025-26 i gyd-fynd â’n cyllidebau a heriau a blaenoriaethau newidiol. 

Bellach, ceir pedwar amcan llesiant:

  • FFYNNU – Lle llewyrchus ac ynddo gymunedau sy’n ffynnu
  • GRYMUSO – Cefnogi’r rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein mysg
  • CYFLAWNI – Galluogi pobl i wireddu eu potensial
  • MODERNEIDDIO – Creu gwasanaethau cyhoeddus modern, di-dor

Pum ffordd o weithio eich Cyngor chi:

  • Defnyddio adnoddau’n well ac yn eu targedu’n well
  • Un Cyngor, yn gweithio gyda’n gilydd a chyda phartneriaid
  • Gwella cyfathrebu, ymgysylltu ac ymatebolrwydd
  • Cefnogi a grymuso cymunedau
  • Gwarchod y gwasanaethau sydd bwysicaf i chi
 Graffeg: Ein huchelgais ar gyfer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Delweddau o bob rhan o’r fwrdeistref sirol

Chwilio A i Y

Back to top
OSZAR »