Canolfannau Ieuenctid

Dyma gyflwyno Strafagansa Canolfan Ieuenctid Mynediad Agored! Hei, bobl ifanc gwych y dref! Ydych chi'n barod i ddechrau ar daith llawn cyffro, creadigrwydd a hwyl? Dyma'r lle i chi, achos mae gennym ni rywbeth epig ar eich cyfer chi!

Ymunwch â ni yn y Ganolfan Ieuenctid Mynediad Agored, y lle gorau i fod i bob un ohonoch chi bobl ifanc gwych sy'n 11 a throsodd! Dyma gipolwg bach ar beth fydd ar gael ei chi yn ystod ein sesiynau:

  • Coginio: Rhyddhewch y MasterChef mewnol sydd ynoch chi a rhowch gynnig ar greu danteithion blasus.
  • Pŵl a Thennis Bwrdd: Byddwch yn barod am ychydig o gystadlu cyfeillgar a dangos eich sgiliau ar y byrddau ffelt a phing-pong.
  • Gwallt a Harddwch: Dysgwch am y cynghorion harddwch diweddaraf, steil gwallt a thechnegau colur. Amser am steil gwallt glam - neu arbrofi gyda rhywbeth ychydig bach yn ffynci!
  • Cerddoriaeth: Teimlwch y rhythm a chreu trawiadau cofiadwy gyda'n sesiynau cerdd. Mae yna seren roc ym mhob un ohonoch!
  • Celf a Chrefft: Gadewch i'ch creadigrwydd ddisgleirio gyda chelf a chrefft. Beth am baentio, darlunio a gwneud gwaith crefft nes y byddwch wedi creu eich campwaith gorau erioed.
  • Ymlaciwch: Wedi awr yn llawn cyffro, mae'n amser ymlacio a rhoi traed lan yn eich cwtsh cyfforddus. Cyfle i ddal fyny gyda ffrindiau, darllen neu bod yn brysur yn gwneud dim!
Youth support graphic

Dod â Gwasanaethau i Chi!

  • Gweithwyr ieuenctid cymwysedig a chyfeillgar
  • TV / consolau chwaraeon
  • Lle cynnes a chyfforddus i fod ynddo
  • Chwaraeon a gweithgareddau
  • Cyngor cyfrinachol ar iechyd rhywio
  • Condomau am ddim

Gwiriwch @BCBCYS i weld lle rydym ni’n mynd i fod!

logo Golygyddion Ifanc

Golygyddion Ifanc

Cyfeiriad: Neuadd Evergreen, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4AD
Oriau Agor 1: Bob dydd Iau, 4.30pm - 6.30pm

Rhyddhewch eich creadigrwydd yn ein grŵp cymunedol rhyngweithiol lle gallwch ennill sgiliau gwerthfawr. Rhowch gynnig ar ddylunio, cyfryngau cymdeithasol, marchnata, adeiladu gwefan a mwy!

Nod ei grŵp sy'n cael ei arwain gan bobl ifanc yw newid y ffordd y mae'r gwasanaethau ieuenctid yn cysylltu'n ddigidol gyda phobl ifanc.

Welwn ni chi yno am anturiaethau creadigol anhygoel!

Graffig: Yr Hyb

Yr Hyb (18-25 oed)

Cyfeiriad: Neuadd Bytholwyrdd, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4AD
Oriau Agor 1: Bob Dydd Llun, 6pm - 8pm

Dewch o hyd i'ch criw chi. Ymunwch â ni yn Cymorth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr i gysylltu, gwneud ffrindiau ac archwilio'r cymorth anhygoel sydd gennym i'w gynnig. Y lle perffaith i gymdeithasu.

Mynediad am ddim

Graffig: YPOP

Pobl Ifanc Pride - YPOP (11-17 oed)

Cyfeiriad: Neuadd Bytholwyrdd, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4AD
Oriau Agor 1: Dydd Llun, 4pm – 6pm

Ymunwch â ni mewn lle diogel a chyffrous, lle gallwch gymysgu, gwneud ffrindiau newydd a darganfod yr holl bethau gwych sydd gan Cymorth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr i'w gynnig.

Clwb Dawel graphic

Clwb Dawel (Atgyfeiriad yn unig)

Cyfeiriad: Neuadd Evergreen, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4AD
Oriau Agor 1: Bob dydd Iau, 4.30pm - 6.30pm

Dewch o hyd i’ch criw hamddenol -  Chwilio am le hamddenol i wneud ffrindiau newydd?

Ymunwch â ni mewn amgylchedd heddychlon lle gallwch gwrdd â phobl newydd sy’n mwynhau awyrgylch tawelach. P’un a ydych yn mwynhau darllen, celf a chrefft, gemau bwrdd neu ymlacio gyda chwmni da, hwn yw’r lle i chi.

Cyfeiriad ebost: [email protected]

Neuadd Evergreen

Cyfeiriad: Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4AD.

Dyddiau Mawrth a Mercher o 5.15pm - 7.15pm

  • Cystadleuaeth Pêl-fasged: Ewch amdani i anelu at y rhwyd a dangos eich symudiadau
  • Cystadlaethau Pŵl: Rhowch y peli yn eu lle a chystadlu i ennill
  • Bwrdd Gemau Infinity: Heriwch eich ffrindiau i oriau bwygilydd o hwyl a gemau
  • Gemau PS5: Beth am gystadlu ar y consol diweddaraf
  • Dawns a Charioci: Dewch draw i ddawnsio neu i ganu nerth eich pen i'ch hoff gerddoriaeth
  • Danteithion o'r Siop: Cyfle i gael gafael ar snac neu ddau i gadw nerth
  • Hwyl Ffitrwydd: Amser symud efo heriau ffitrwydd ffantastig
  • Gemau Bwrdd i Bawb: Mwynhewch y gemau bwrdd clasurol - a'r rhai newydd

A dim ond y dechrau yw hynna! Dewch draw am chwa o hwyl a chyffro bob wythnos.

Clwb Ieuenctid CCYD

Cyfeiriad: Heol-Yr-Ysgol, Tondu, CF32 9EG.

Bob dydd Mawrth o 5pm - 7pm

  • Ymgollwch yn eich Creadigrwydd: Plymiwch i ganol llond lle o hwyl, gweithgareddau creadigol a gadael i'ch dychymyg fynd yn rhemp!
  • Mwynhewch Gemau Pŵl Cynhyrfus: Heriwch eich ffrindiau a dangos eich sgiliau!
  • Cynyddwch eich Ffitrwydd yn y Gampfa: Cewch fynediad i'n hardal ffitrwydd a champfa i gadw i symud a chadw'n heini!
  • Beth am gael blas ar rai o'n Danteithion: Ewch amdani i fachu ambell i snac o'r siop!
  • Crëwch Atgofion Bythgofiadwy: Treuliwch amser yng nghwmni eich ffrindiau a gwneud i bob eiliad gyfrif!

A'r peth gorau am hyn i gyd? Byddwch yn derbyn cefnogaeth gan ein gweithwyr ieuenctid proffesiynol, sydd yno i wneud yn siŵr eich bod yn cael amser gwych ac i ddarparu arweiniad pan mae angen.

Canolfan Ieuenctid Pencoed

Cyfeiriad: Felindre Road, Pencoed, CF35 5PB.

Bob dydd Mawrth a dydd Iau o 5pm - 7pm

  • Bwydydd Blasus: Beth am wledda ar ddanteithion o'n cegin!
  • Byrbrydau at ddant pawb: Ewch amdani a chael gafael ar eich ffefrynnau o'r siop!
  • Gemau Fideo: Plymiwch i mewn i sesiynau gemau cyfrifiadur epig!
  • Pŵl: Heriwch eich ffrindiau i gêm gyffrous o pŵl.
  • Offer Trin Gwallt: Arbrofwch gyda steiliau newydd ac ymroi i'ch creadigrwydd!

A chofiwch, byddwch yn derbyn cefnogaeth gan ein gweithwyr ieuenctid proffesiynol, sy'n barod i wneud yn siŵr eich bod yn cael amser gwych ac i ddarparu arweiniad pan mae angen.

Canolfan Ieuenctid Cynffig

Cyfeiriad: Ysgol Gyfun Cynffig (Adain Ieuenctid), Rhodfa'r Dwyrain, Mynydd Cynffig, CF33 6NP.

Bob dydd Mawrth a dydd Iau o 5pm - 7pm.

  • Cicio Pêl yn y Neuadd Chwaraeon: Dangoswch eich sgiliau pêl-droed a mwynhau'r gêm!
  • Gemau Xbox: Plymiwch i ganol sesiynau gemau cyfrifiadur epig!
  • Gorsaf Harddwch: Beth am bampro eich hun a bod yn glam!
  • Gemau Hwyl: Heriwch eich ffrindiau a chael hwyl!
  • Siop Ddanteithion Flasus: Bachwch ychydig o snaciau blasus i gadw eich nerth!

Ymlaciwch mewn amgylchedd cynnes a chroesawgar, a chofiwch, mae ein gweithwyr ieuenctid cyfeillgar yma i gynnig cyngor ac arweiniad pryd bynnag y byddwch ei angen!

Canolfan Ieuenctid Bracla

Cyfeiriad: Canolfan Gymunedol Bracla, Whitethorn Drive, Bracla, CF31 2PQ.

Bob dydd Gwener o 6.15pm - 8.15pm.

  • Pencampwyr Pêl-droed: Sgoriwch bob tro a dangos eich sgiliau!
  • Celf a Chrefft Creadigol: Mwynhewch greu crefftau i fwydo'r dychymyg!
  • Cystadlaethau Gemau Bwrdd: Beth am gystadlu gyda'ch ffrindiau a dod yn feistr ar y gemau!
  • Cerddoriaeth a Churiadau: Ymgollwch yn y tiwns diweddaraf a gadael i'r rhythmau eich symud!
  • Danteithion Blasus o'r Siop: Llond bol o ddanteithion - a hwyl!
  • Cysylltu gyda Ffrindiau: Ymlacio, chwerthin a chreu atgofion newydd!
  • Hoci Aer: Profwch eich ymatebion a brwydro i fuddugoliaeth!

Peidiwch â cholli cyfle i gael Gwener gwallgof llawn hwyl - welwn ni chi yno!

Chwilio A i Y

Back to top
OSZAR »